English

Hanes Capel Gwynfil a'r achos Fethodistaidd yn Llangeitho

Ddau gan mlynedd yn ôl, yn 1815, yr agorwyd adeilad presennol Capel Gwynfil, Llangeitho. Ystyrir Llangeitho yn ‘Gaersalem’ y Methodistiaid yng Nghymru.

Cerflun Daniel Rowland (c) Capel Gwynfil

Cerflun Daniel Rowland


Cofgolofn Daniel Rowland

Trefnwyd apêl cenedlaethol i godi arian ar gyfer cofgolofn i Daniel Rowland gan y Parch. Thomas Levi, Aberystwyth. Llwyddwyd i godi £614.18s. Edward Griffiths o Gaer oedd cerflunydd y gofgolofn o farmor gwyn, ac fe’i dadorchuddiwyd ar 6/7 Medi 1883. Mae’n debyg fod rhwng 2,000 a 3,000 o bobl yn bresennol. Credir bod y geiriau ar y gofgolofn yn dod o un o bregethau Rowland: ‘O Nefoedd! Nefoedd! Nefoedd! Buasai dy gonglau yn ddigon gwag oni bai fod Sion yn magu plant i ti ar y ddaear.’

Bu yna ddeffroad crefyddol mawr yng Nghymru yn ystod y ddeunawfed ganrif. Gellid hawlio taw yn Llangeitho y cychwynnodd Methodistiaeth Gymreig, a hynny i raddau helaeth o ganlyniad i waith un gŵr lleol, sef Daniel Rowland, a anwyd ym Mhantybeudy tua 1713. Ac yntau’n fab i berson, ordeiniwyd Rowland yn 1734, a bu’n gwasanaethu fel curad eglwysi Anglicanaidd Nantcwnlle, Llanddewibrefi a Llangeitho. Ond, yn 1735, clywodd yr addysgwr a’r Anghydffurfiwr enwog Griffith Jones Llanddowror (1683–1760) yn pregethu, a newidiodd Rowland ei arddull ei hun o bregethu. Daeth yn fwy emosiynol – yn grac hyd yn oed – wrth fynegi ei deimladau am Dduw, pechod a’r ôl-fywyd, er i Phylip Pugh o Flaenpennal, arweinydd eglwys y Cilgwyn, ei gynghori i gymedroli ei arddull. Daeth Rowland yn un o arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, ynghyd â’r pregethwr Howell Harris (1714–73) a’r emynydd William Williams Pantycelyn (1717–91).

Nid oedd yr Eglwys Anglicanaidd yn cymeradwyo arddull angerddol newydd Rowland o bregethu. Felly, dechreuodd gynnal gwasanaethau crefyddol yng nghartrefi pobl, yn arbennig yn ysgubor fferm Meidrym yn Llangeitho yn 1757. Er i’w drwydded i bregethu yn yr Eglwys Anglicanaidd gael ei diddymu gan yr Esgob Samuel Squire yn 1763, parhaodd Rowland i fod yn gurad Anglicanaidd ac fe’i claddwyd yn Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, yn 1790.

Codwyd y capel cyntaf yn Llangeitho gan Rowland a’i ddilynwyr yn 1760. Lleoliad y capel yma yw safl e cofgolofn Daniel Rowland heddiw. Fe wnaeth brawd yng nghyfraith Rowland, Peter Davies, Y Glyn, brydlesu tir i’r ymddiriedolwyr Williams Pantycelyn, William Richard a Rowland. Roedd y capel wedi ei wneuthur o glom a chanddo do gwellt, mesurai 30 troedfedd wrth 18 troedfedd, ac fe’i gelwid yr ‘Eglwys Newydd’. (Estynnwyd y brydles, gyda’r tir yn cael ei brynu, ynghyd â chyfer arall ar gyfer mynwent, gan ddynes o’r enw Mrs Catherine Lyons, o Picton Place, Caerfyrddin, am £70 yn 1897.)

Bedair blynedd yn ddiweddarach roedd Rowland wedi’i fwrw allan o’i guradaeth yn eglwys y plwyf. Codwyd ail gapel mwy o faint ar yr un safl e yn 1764, y tro yma gyda muriau cerrig a tho dwbl o lechi, a oedd yn gwneud iddo edrych fel dau dŷ wedi’u cysylltu. Gelwid un o’r rhain ‘Y Tŷ ger y Pulpud’ a’r llall ‘Y Tŷ ger y Ffordd’. Mesurai’r capel hwn 45 troedfedd sgwâr, gyda llinell o bedair colofn garreg y tu fewn a drws ar bob pen. Ceid mynediad i’r pulpud trwy un o’r drysau allanol. Byddai hyn yn angenrheidiol pan fyddai Rowland yn pregethu, gan y byddai’r capel yn orlawn a byddai’n amhosib symud trwy’r gynulleidfa. Gostyngid y bwrdd cymundeb ar ôl y bregeth trwy ddefnyddio troellwyr (pulleys), gyda’r gynulleidfa wedyn yn cerdded heibio’r bwrdd ac allan trwy ddrws ar ochr y capel.

Teithiai miloedd i Langeitho i wrando ar Rowland yn pregethu ac i gael cymundeb. Deuent ar droed neu ar gefn ceffyl, gyda rhai’n teithio hyd at 80 milltir. Byddai rhai’n hwylio ar gychod o ogledd Cymru i Aberystwyth, ac yna’n cerdded oddi yno i Langeitho, taith o ryw 18 milltir. Byddai rhai’n cyrraedd ar gyfer y gwasanaeth canol dydd ar ddydd Sadwrn. Felly, cynigiai nifer o drigolion Llangeitho lety dros nos i’r ymwelwyr. Dywedir y byddai rhwng 60 ac 80 o bobl yn lletya ar ffermydd lleol, megis Cilpyll a’r Goyallt. Byddai eraill yn cysgu mewn ysguboriau neu yn yr awyr agored. Er hyn, pobl oedd yn byw yn weddol lleol oedd mwyafrif y gynulleidfa, rhai wedi teithio hyd at 30 milltir i gyrraedd Llangeitho am y diwrnod. Gwelid cannoedd o geffylau wedi’u clymu ar ochr y ffyrdd i fewn i’r pentref. Amcangyfrifodd George Whitefi eld (1714–70), y clerigwr Anglicanaidd Saesneg a gynorthwyodd i ledaenu’r Deffroad Mawr ym Mhrydain a threfedigaethau’r Amerig, bod 10,000 o addolwyr yn bresennol yn Llangeitho i gael cymundeb ar y Sul pan fu ef yno.

Wedi marwolaeth Daniel Rowland yn 1790, lleihaodd y niferoedd a ymlwybrai i Langeitho.

Dechreuodd y Methodistiaid ordeinio eu gweinidogion eu hunain am y tro cyntaf yn 1811. Bryd hynny penderfynwyd adeiladu trydydd capel yn Llangeitho a dyma’r capel a saif yno heddiw. Ar gost o £2,000, fe’i hadeiladwyd rhwng 1813 ac 1815, a chafodd ei ailfodelu y tu mewn rhwng 1861 ac 1863 gan John Lumley o Aberystwyth. Mae’r capel yma yn mesur 60 troedfedd wrth 36 troedfedd. Roedd yna bedwar drws i gapel 1815: Drws y Geifr (ar gyfer y gwrthgilwyr); Drws y Defaid (ar gyfer y rhai oedd yn dychwelyd at y praidd); y Drws Coch (gan taw dyna ei liw) a’r Drws i’r Allor (ger y fan lle gweinyddid y cymun). Mae gan y capel presennol ddau ddrws yn nhu blaen y capel ac un yn y cefn – drws y gellir ei ddefnyddio i fynd i mewn i’r pulpud o’r tu allan (yn debyg i gapel 1764). Gall 650 o bobl eistedd yn y capel ac fe’i cofrestrwyd fel adeilad arwyddocaol Gradd II* gan CADW yn 1963.

Adeiladwyd ysgoldy tua 1820, gyda’r tŷ capel, y stablau a’r coetsiws yn cael eu hadeiladu tua 1857. Mae’r festri uwchben y coetsiws yn dyddio o 1902. Nid yw wedi newid rhyw lawer ers hynny. Codwyd adeiladau gerllaw ar gyfer canghennau yr ysgol Sul ac ar gyfer cyfarfodydd yn ystod yr wythnos, yn Rhydypandy (1834), Brynhir (1872) a Cwrt Mawr (1896).



Cerrig llawr y cyntedd (c) Capel Gwynfil

Daw cerrig llawr cyntedd y capel presennol o gapel 1764.::

Y Cwpan Cymundeb (c) Capel Gwynfil

Credir bod y cwpan cymundeb brown gyda phatrwm blodeuog (yn y cwpwrdd yn yr allor) hefyd yn dod o amser Daniel Rowland.::

Y cloc haul (c) Capel Gwynfil

Gwnaethpwyd y cloc haul (ar y silff ffenestr i’r dde o’r pulpud) gan y gwneuthurwr offer gwyddonol Joshua Springer o Fryste. Gweithiai yn y cyfnod rhwng 1759 ac 1808.::



Administration