Ymweld â Chapel Gwynfil
Mae Capel Gwynfil yn croesawu ymwelwyr, boed yn unigolion neu’n grwpiau. Mae festri’r capel yn le swynol hefyd i’w ymweld o berspectif hanesyddol, gan nad yw wedi newid llawer yn y ganrif ddiwethaf!
Gellir cynnal digwyddiadau yn y capel a’r festri, gyda i fyny at 650 o bobl yn medru eistedd yn y capel.
Mae Capel Gwynfil yn bwysig iawn yn hanes Methodistiaeth yng Nghymru. Os ydych yn grŵp o gapel neu eglwys ac am ymweld a chynnal oedfa yn yr addoldy hwn, byddwn yn hapus i’ch croesawu.
Os hoffech ymweld â’r capel, wnewch chi gysylltu â ni i drefnu dyddiad ac amser