English
Llwybr Etifeddiaeth Daniel Rowland (c) Capel Gwynfil

Llwybr Etifeddiaeth Daniel Rowland

Gallwch lawrlwytho taflen y Llwybr fel PDF yma

Llwybr Etifeddiaeth Daniel Rowland


Mae’r llwybr yma yn dathlu bywyd a gweithiau efengylydd amlwg y 18fed ganrif, Daniel Rowland, Llangeitho.

Yn ystod y 18fed ganrif bu adfywiad crefyddol mawr. Trwy ysbrydolaeth cyfres o bregethwyr carismatig dychwelai pobl i’r Efengylau a bywyd Cristnogol. Yn America cysylltwyd y diwygiad â Jonathan Edwards ac yn Lloegr ysbrydolwyd ef trwy waith George Whitefi eld a’r brodyr Wesley. Daniel Rowland ynghyd â Howell Harris a’r emynydd mawr William Williams Pantycelyn oedd y dynion allweddol yng Nghymru. Gellir honni mai yma yn Llangeitho, yn y pentref tawel, anghysbell hwn, y dechreuodd Methodistiaeth Cymru. Yng ngeiriau Thomas Charles y Bala: “O Langeitho llifai’r nentydd ffrwythlon ledled y wlad yn y dyddiau bendigaid hynny…”


Cerflun Daniel Rowland (c) Capel Gwynfil

Cerflun Daniel Rowland

1. Cerflun Daniel Rowland

Fe gychwyn y llwybr yng nghanol y pentref. Codwyd y cerfl un trwy danysgrifi ad cyhoeddus yn 1883. Fe ddangosir Rowland yn ddyn ifanc yn pregethu yn ei lawn hwyl. Dyma ddisgriflad William Williams Pantycelyn ohono yn ei ddyddiau cynnar:
Boanerges oedd ei enw mab y daran danllyd gref
Sydd yn siglo yn ddychrynllyd holl golofnau dae’r a nef…
Yn Llangeitho fe ddechreuodd weiddi distryw’r anwir fid.
Miloedd ffodd o’r De a’r Gogledd, yn un dyrfa yno ’nghyd,
Arswyd, syndod, dychryn, ddaliodd yr holl werin fawr a mân.
Nid oedd gwedd wynebpryd ungwr fel y gwelid ef o’r blaen.



Pantybeudy - man geni Daniel Rowland (c) Michael Marcel

Pantybeudy - man geni Daniel Rowland

2. Ffermdy Pant y Beudy

Ymlaen hyd at y cylchdro a cymerwch y tro ar y dde, lle gwelwch arwydd i Talsarn. Ewch ar yr heol hon tua dau gilometr a throi i’r dde i fyny’r heol a’r arwydd Bwlchllan arni. Ychydig cyn cyrraedd y pentref, trowch i’r chwith i lawr lôn fach. Mae hon yn arwain i Ffermdy Pant y Beudy lle ganwyd Rowland naill ai yn 1711 neu 1713. Rheithor plwyfi Llangeitho a Nantcwnlle oedd ei dad: Daniel Rowland oedd enw hwnnw, hefyd. Mae hanes bod y Daniel ifanc bron â chael ei daro a’i ladd gan garreg a gwympodd oddi ar simnai’r hen dŷ, ac ystyrid y ddihangfa gyfyng hon yn enghraifft o ragluniaeth arbennig Duw i’r plentyn.


Eglwys Nancwnlle (c) Michael Marcel

Eglwys Nancwnlle

3. Eglwys Nantcwnlle a’r Fynwent

Ymlaen ar yr un heol nes cyrraedd canol pentref Bwlchllan. Rhaid troi go gyfl ym i’r chwith i lawr y bryn: fe saif Eglwys Nantcwnlle hanner cilometr ar y dde. Dilynodd Rowland lwybr ei dad a chael ei ordeinio yn 1734. Bu ef yn gurad am y rhan fwyaf o’i fywyd yn Llangeitho a Nantcwnlle. Er hynny, ni chafodd ei droi i ddifrifoldeb bywyd Cristnogol tan 1735 pan glywodd ef bregethau’r addysgwr enwog Griffith Jones, Llanddowror, yn y fynwent hon, efallai. Ar ôl hyn roedd pregethau Rowland ei hunan yn gwbl wahanol. Heddiw mae Eglwys Nantcwnlle wedi’i chau oherwydd diffyg cefnogaeth ac mae’n anodd dychmygu brwdfrydedd y cyfnod hwnnw. Yn ôl sylwebydd: “Dywedir bod y bobl wedi’u hargyhoeddi gymaint fel bod rhai, a fethai sefyll, wedi gorwedd ar lawr Mynwent Nantcwnlle. Roeddent mor niferus ar y ddaear fel na fu’n hawdd i rywun fynd heibio…”

Afon Gwenffrwd (c) Capel Gwynfil

Afon Gwenffrwd

4. Afon Gwenffrwd

Wedi ymadael â’r Eglwys, ewch yn eich blaen i lawr y bryn ac, ar y gwaelod, troi i’r chwith tua Llangeitho. Ymlaen am bron tair chilometr nes cyrraedd pont dros nant fechan. Dyma Gwenffrwd, llednant afon Aeron. Gymaint oedd y cyffro fel y cafodd pobl eu trefnu yn grwpiau neu gymdeithasau bach cyn hir. Deuent at ei gilydd yn gyson i astudio’r Beibl a rhannu dealltwriaeth ysbrydol. Ni wyddys yn gymwys lle cyfarfyddai’r gymdeithas gyntaf, and yn ôl traddodiad roedd hi mewn tŷ bychan mewn cwm cul a diarffordd rhwng Nantcwnlle a Llangeitho ar lan Gwenffrwd. Ni allai, felly, fod yn bell o’r fan hon. Y cymdeithasau hyn a ddaeth yn asgwm cefn mudiad Methodistiaeth Cymru nes ymlaen.

Fferm Wenallt (c) Capel Gwynfil

Fferm Wenallt

5. Fferm Wenallt

Ymlaen ar hyd yr heol a gyrru yn ôl trwy’r pentref, trwy’r cylchdro, a heibio’r cerfl un. Wedyn cymerwch y tro cyntaf ar y chwith a dilyn yr heol heibio’r Eglwys. Mae’r ffordd i mewn i Wenallt ar y chwith. Etifeddodd Rowland Wenallt oddi wrth deulu ei fam a chodwyd ei reithordy ar y fferm. (Mae’r adeilad gwreiddiol wedi difl annu bellach: un modern yw’r rheithordy presennol.) Priododd Rowland ag Elinor Davies, Fferm Caerllugest, yn 1734. Mae’n llai na thair chilometr ar hyd yr heol a thaith dymunol ydyw o Wenallt. Mae yna olygfa hardd o ben y bryn. Bu Elinor yn wraig arbennig. Gyda Rowland i ffwrdd yn pregethu, Elinor a reolai’r fferm a’r rheithordy, a geni o leiaf chwech o blant, dau fab a phedair merch.

Egwlys Llangeitho (c) Capel Gwynfil

Eglwys Sant Ceitho

6. Eglwys Sant Ceitho

Yn ôl i’r Eglwys. Yma bu Rowland yn gurad o fl wyddyn ei ordeinio. Fe’i claddwyd yn y fynwent, ac y tu fewn mae llechen goffa. Daeth pobl o bob rhan o Gymru i’w glywed yn pregethu. Mor llawn oedd yr Eglwys fel y traddodai ef ei bregethau y tu allan. Fe ysgrifennodd cyfoeswr: “Ar ddydd Sul roedd rhaid codi pulpud mewn cae lle roedd o leiaf 14,000 o bobl, golygfa ryfeddol, a hefyd cysurus oedd clywed y bryniau a chymoedd cyfagos yn atseinio â sain orfoleddus iachawdwriaeth.” Fodd bynnag, yn 1763 diswyddwyd Rowland gan yr Esgob. Credid i’w ddilynwyr fod yn anfodlon derbyn disgyblaeth yr Eglwys. Fel canlyniad, bu i bron i’r holl gynulleidfa ymadael. Yr unig un i aros oedd un o’i chwiorydd ei hunan. Sul ar ôl Sul safai’r Eglwys yn wag heblaw am y curad newydd, y clerc, a’r hen wraig.


Capel Gwynfil, Llangeitho (c) Capel Gwynfil

Capel Gwynfil, Llangeitho

7. Capel Gwynfil

Fel ymateb i’w ddiarddeliad, cododd ei ddilynwyr y Capel. Ewch yn ôl tua’r cerfl un. Y Capel sy’n sefyll ar ongl sgwar iddo. Yma bu Rowland yn parhau ei weinidogaeth nes marw yn 1790. Cynulleidfaoedd enfawr oedd yr arfer, ac mae gennym ddarlun byw o’r Daniel Rowland oedrannus oddi wrth y gweinidog o Fedyddiwr, Christmas Evans. “Fe’i gwelaf yn awr yn dod mewn gŵn du trwy ddrws bach o tu allan y pulpud.” Ar ôl y bregeth, [i:“Fe wnâi weddi fer, felys a dweud y Fendith Apostolaidd. Yna, yn llawn chwys, byddai ef yn brysio allan o’r pulpud yn ôl trwy’r drws bach.” Yn ei henaint, fe’i carwyd yn fawr. Fel y dywedodd ei ddisgybl, Thomas Charles y Bala: “Fe’i caraf yn fawr a’i anrhydeddu fel fy nhad yng Nghrist… gan mai iddo ef, o dan Dduw, rwyf mewn dyled am ba olau bynnag sydd gennyf a pha brofi ad bynnag sydd gennyf o’r iachawdwriaeth ogoneddus trwy Grist.”
Testun gwreiddiol: Lavinia Cohn-Sherbok - Cyfieithydd: Robert Dery

Administration