English

Hanes Llangeitho


Llangeitho c.1890

Llangeitho, tua 1890

Mae mwy i Langeitho, wrth gwrs, na’r miloedd fu un tro yn teithio yma ar y Sul i wrando ar bregethwr enwog. Mae gan Llangeitho ysgol, siop a chaffi bywiog a llewyrchus, neuadd bentref sy’n cynnal ystod amrywiol o weithgareddau, Y Tair Pedol, lle bu’r bardd enwog, Dylan Thomas, yn torri ei syched un tro, a sioe amaethyddol flynyddol (a gynhelir ar ddydd Mercher olaf mis Awst) sy’n uchel ei pharch yn y dalgylch o hyd. Yn wir, mae hanes Sioe Llangeitho yn ymestyn ’nôl mewn hanes. Yn 1933, gwnaeth gŵr lleol a wnaeth ei ffortiwn yn Llundain, Evan Evans, roi’r hysbyseb canlynol ym mhapur newydd Cymry Llundain, Y Ddolen:

An aeroplane will leave London at 8a.m., Aug. 30, for the Llangeitho Show. Lunch will be provided. Fare £5.

Mae’n amlwg fod ymwelwyr wedi teithio ar droed, ar gefn ceffyl, mewn cwch ac awyren i Langeitho…

Administration