English

Blas ar Hanes Llangeitho


Pentref Llangeitho (c) Capel Gwynfil

Pentref Llangeitho


Daniel Rowland (1713–90)


Yn fab i berson plwyfi Llangeitho a Nantcwnlle, ganed Daniel Rowland (1713–90) ym Mhantybeudy, Bwlch-llan. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Henffordd, yn ôl pob sôn. Fe’i hurddwyd yn ddiacon yn 1734 ac yn offeiriad yn 1735. Gwasanaethodd y plwyfi yma fel curad cyn dod o dan ddylanwad Griffith Jones, Llanddowror. Dechreuodd bregethu a chychwyn teithio o gwmpas Cymru. Ymunodd â Howel Harris fel un o arweinyddion y mudiad hyrwyddo’r deffroad Methodistaidd yng Nghymru. Ond yn 1752 bu rhwyg rhwng y ddau. Am gyfnod maith gwnaeth Rowland Llangeitho yn Feca’r Methodistiaid a thyrrai miloedd o bobl yno o bob rhan o Gymru bob Sul i wrando arno’n pregethu. Cyhoeddwyd ei bregethau mewn llyfrynnau a hefyd ei emynau.

Cyhoeddiadau (detholiad)
Traethawd am Farw i’r Ddeddf, a Byw i Dduw (1743)
Rhai Hymnau Duwiol (1744)
Hymnau Duwiol Yw Canu Mewn Cymdeithas Crefyddol (1744)
Deuddeg o Bregethau (1814)
‘Halsing o waith Daniel Rowland, 1737’, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 33 (1948), t.15
Darllenwch mwy am hanes Daniel Rowland]


Eglwys Sant Ceitho


Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd eglwys Llangeitho yn perthyn i Ddeondy Uwch Aeron ac o dan nawddogaeth esgobion Tyddewi. Roedd y Parch. Daniel Rowland yn gurad y plwyf hyd nes diarddelwyd ef o’r Eglwys Sefydledig. Mae wedi ei gladdu yn y fynwent ac mae cofeb iddo ar lawr yr eglwys bresennol. Ailadeiladwyd yr eglwys yn 1821 ar yr un safle â’r eglwys flaenorol o gerrig rwbel Llanddewi Brefi. Atgyweiriwyd yr eglwys rhwng 1879 a 1888, ac ehangwyd yr eglwys yn 1899 i gynlluniau William Williams, Aberhonddu.

John Humphreys Davies (1871–1926)


Ganed John Humphreys Davies yn Cwrtmawr. Cofier amdano fel prifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac am ei gasgliad amhrisiadwy o ddogfennau Cymraeg o’r Oesoedd Canol. Fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Lincoln, Rhydychen. Cafodd ei alw’n fargyfreithiwr i Lincoln’s Inn ac o oedran ifanc bu’n ymwneud â’r byd cyhoeddus. Fe’i hetholwyd yn henadur Cyngor Sir Aberteifi yn 24 oed, er nad oedd yn aelod etholedig o’r awdurdod. Yn Rhydychen roedd yn gyfeillgar gydag O M Edwards, ac ef a daniodd ei ddiddordeb yn llenyddiaeth Cymru. Roedd yn aelod o’r mudiad a greodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a rhoddwyd ei gasgliad o 1,549 o gyfrolau o ddogfennau Cymraeg o’r Oesoedd Canol i’r llyfrgell. Yn 1905 fe’i penodwyd yn gofrestrydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a bu’n brifathro’r coleg o 1919 tan ei farwolaeth.

Dr Martyn Lloyd-Jones


Cafodd Dr David Martyn Lloyd-Jones (1899–1981) ei eni yng Nghaerdydd, ond symudodd ei deulu i Langeitho yn 1904 a byw yno am ddeng mlynedd. Cadwai ei dad siop yr Albion yn y pentref. Mynychodd yr ysgol yn lleol ac yn Ysgol Sir Tregaron. Cofier amdano fel pregethwr a meddyg, ac yr oedd yn ddylanwadol iawn ar asgell ddiwygiedig mudiad efengylaidd Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif. Daeth yr alwad i fod yn bregethwr yn 1927 a dychwelodd i Gymru gan weinyddu ger Port Talbot. Yn ddiweddarach bu’n weinidog Capel Westminster yn Llundain am bron i 30 mlynedd. Aeth ei frawd Vincent ymlaen i fod yn farnwr yr Uchel Lys.

Ceir mwy o wybodaeth am Martyn Lloyd-Jones ar y wefan yma

Dr Evan David Jones CBE PhD FSA


Ganed Evan David Jones (1903–87) yn Y Wenallt. Rhwng 1958 a 1969 roedd yn llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Fe’i haddysgwyd yn ysgol y pentref ac yna bu’n gweithio gartref ar y fferm yn bugeilio’r defaid. Pan yn 16 oed fe’i perswadiwyd gan ei fodryb i fynychu Ysgol Ramadeg Tregaron a lletya gyda hi yn ystod yr wythnos. Ymysg ei gyd-ddisgyblion oedd rhai o gymwynaswyr disgleiriaf Cymru, gan gynnwys J Kitchener Davies o Lwynpiod, gerllaw. Gweithiodd fel archifydd a cheidwad yr Adran Lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyn ei benodi yn llyfrgellydd ac olynu Thomas Parry yn y swydd. Roedd yn olygydd gweithiau’r bardd pwysig o’r bymthegfed ganrif, Lewys Glyn Cothi, a chyhoeddodd ddwy gyfrol o’i waith y bardd yn 1953. Yn ogystal, cyhoeddodd Victorian and Edwardian Wales from Old Photographs (1981) gan fod tynnu lluniau yn un o’i ddiddordebau. Treuliodd ei amser hamdden hefyd ar nifer o bwyllgorau, megis rhai’r brifysgol yn Aberystwyth, Urdd Gobaith Cymru, Undeb Cymru Fydd, y Cyngor Llyfrau, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Orsedd, Cymdeithas Bob Owen, Cymdeithas Emynau Cymru, ayyb. Cydnabuwyd ei gyfraniad mawr i fywyd Cymru gan y frenhines, Prifysgol Cymru, a llu o gymdeithasau dysgedig.

Brodyr Harries Williams, Dolau Aeron


Cafodd teulu o dri brawd barddol ei magu yn Nolau Aeron, Llangeitho. Bedwyn, sef enw barddonol Tom Harries Williams (g. 1888) a dreuliodd ei oes yn offeiriad gan wasanaethu fel ficer Eglwys Dewi Sant, Caerfyrddin. Ceir enghreifftiau o’i waith barddol yn Cerddi Ysgol Llanycrwys (1934).
Caeron: sef Isaac Harries Williams (1876–1935). Er iddo dreulio ychydig o’i flynyddoedd cynnar ym myd masnach yn Llundain, hiraethai am gael gwasanaethu yn yr Eglwys. Derbyniodd ficeriaeth Llanrhystud yn 1930. Pregethodd ar hyd a lled Cymru ac yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl yn Llundain ar un achlysur. Cyhoeddodd sawl cerdd ym mhapur eglwysig Y Llan.
Gwilym Aeron: sef William Joseph Harries Williams (g. 1880). Fel ei frawd Isaac, aeth i Lundain i ennill bywoliaeth, ond yn wahanol i’w frawd, ni ddychwelodd i Gymru. Arhosodd yn Llundain a sefydlodd fusnes laeth llewyrchus a siop. Cyhoeddwyd ei gerddi yn Cerddi Gwilym Aeron yn 1936.


Administration