English
Y Barch. Daniel Rowlands (NLW3365103) (c) LLGC/NLW

Y Barch. Daniel Rowlands (NLW3365103)

Daniel Rowland:1713 - 1790

Daeth yr angerdd a’r brwdfrydedd emosiynol a ymddangosodd yn ystod y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru â phobl yn ôl i’r eglwys yn eu miloedd. Cyn y ‘Deffroad Mawr’ yn y 18fed ganrif roedd llai o bobl yn bresennol. Roedd y seremoniau yn ddiflas yn ymddangos yn amherthnasol i’r rhai a oedd yn bresennol.

Daniel Rowland oedd un o arweinwyr blaenllaw y Diwygiad Methodistaidd Calfinaidd. Cyn y ‘Deffroad Mawr’ roedd llai o bobl yn mynd i’r eglwys. Roedd y pwyslais ar y ddefod yn hytrach nag emosiwn, roedd pregethau yr offeiriaid yn sych ac yn anysbrydoledig. Roedd hyn yn gwrthgyferbynu â phregethu ysgrythurol ac efengylaidd anghydffurfwyr y diwygiad; roedd eu pregethau hwy yn llawn arghyhoeddiad a thaerineb.
Y Sesiwn Gyntaf 1743

Y Sesiwn Gyntaf 1743



Y blynyddoedd cynnar

“Roedd yn gyflym iawn ac yn dysgu yn gyflym [...] Yr oedd yn hynod am ei fywiogrwydd naturiol, ac yn fedrus iawn gyda chwaraeon a phleserau gau yr oes. Yr oedd yn ganolig ei faint, yn gadarn, yn gyflym ac ystwyth ei osgo, ac yn flaenllaw yng nghampau ieuenctid y dydd.”

John Owen, 1839


Pantybeudy, Nantcwnlle, man geni Daniel Rowland (c) Capel Gwynfil

Pantybeudy, Nantcwnlle, man geni Daniel Rowland

Mae peth ansicrwydd ynglŷn â dyddiad geni Daniel Rowland. Mae’r rhan fwyaf o ysgrifenwyr yn dyfynnu 1713, ond mae ei garreg fedd ym mhlwyf Llangeitho yn nodi fod Rowland yn 79 pan fu farw yn 1790, sydd yn golygu iddo gael ei eni yn 1711.
Ar adeg genedigaeth Rowland, roedd ei deulu yn byw mewn tŷ o’r enw Pantybeudy yn Nantcwnlle, dair milltir yn unig o’r fan y treuliodd ei weinidogaeth gyfan. Cafodd Rowland ei addysg gynnar ym Mhontygido ger Llanarth in Sir Aberteifi. Dilynwyd hyn gan ysgol ramadeg gyhoeddus yn Henffordd, lle roedd yn ardderchog gyda ieithoedd. O ganlyniad i’w allu mawr cafodd ei ordeinio pan oedd ddim ond yn ugain oed.

Ordeiniwyd Daniel Rowland yn ddiacon gan Nicholas Clagett Esgob Ty Ddewi yng Nghapel Duke Street yn San Steffan ar Ddydd Sul 10fed o Fawrth 1734. Cerddodd y 230 milltir yno ac yn ôl o bosibl gan ddilyn llwybr y porthmyn. Wedi iddo ddychwelyd roedd ganddo drwydded yr esgob i wasanaethu fel curadur yn Llangeitho a Nantcwnlle am £10 y flwyddyn.


Ysbrydoliaeth ac angerdd

“Edrychodd arno am funud gan bwyntio ato a gyda golwg o gydymdeimlad cyffredinol, dywedodd, ‘O, na bai gair yn cyrraedd eich calon, ddyn ifanc!’ Cyn bo hir yr oedd yn amlwg fod ei aflonyddwch wedi dod i ben, a gwrandawodd yn eiddgar am weddill y bregeth; a phwy oedd hwn ond Daniel Rowland.”

John Owen, 1818


Eglwys Nantcwnlle (c) Capel Gwynfil

Eglwys Nantcwnlle

Llai na dwy filltir i’r gogledd o Langeitho oedd fferm Davies o Gaerllugest. Yma y cyfarfu Daniel Rowland â’i wraig Elinor a briododd yn 1734. Ar Hydref 14eg, 1735 ganwyd eu mab John.

Yn ystod y newidiadau hyn yn ei fywyd domestig cafwyd trawsnewidiad a effeithiodd ar ei fywyd. Sylwodd Daniel Rowland fod pobl yn gadael ei eglwys i wrando ar weinidog anghydffurfiol. Aeth i wrando ar yr anghydffurfiwr, Griffith Jones, er mwyn gweld beth oedd yn denu pobl i wrando arno. Gwelodd y siaradwr olwg anesmwyth Daniel Rowland ac aeth i siarad ag ef. O’r adeg honno, byddai Daniel Rowland yn mynd i edrych am gwmni a chwnsel Griffith Jones yn Llanddowror, ni fyddai wedi cysylltu â’r efengylwr enwog oni bai i newid ddigwydd yn ei gyflwr crefyddol.

O adeg ei droedigaeth, roedd Rowland yn parhau yn deyrngar i’r Eglwys Wladol. Roedd ganddo dri plwyf: Llangeitho, Nantcwnlle a Llanddewi Brefi. Teimlai fod yn rhaid iddo ddweud wrth bobl mor ofnadwy o beth oedd pechod a’u hannog i edifarhau. Gwelai eneidiau pobl fel rhywbeth gwerthfawr a bod dydd y farn yn frawychus o agos. Roedd yn llawn brwdfrydedd a thosturi.

Roedd y testunau a ddewisai yn llawn rhybuddion a bygythiadau o anfodlonrwydd Duw. ‘Bydd y pechadurus yn mynd i uffern’, ‘Bydd y rhain yn cael eu hanfon i gosbedigaeth barhaol’, ‘Mae diwrnod mawr ei lid i ddyfod’. Roedd pregethu Rowland yn rhoi iddo’r llys enw ‘y Ffeiriad Crac’.


Pregethu yn yr awyr agored

“Roedd nerth Duw yn y Cymun, a roddwyd gan Mr Rowland yn ddigon i wneud i galon rhywun losgi ynddo. Am saith yn y bore, gwelais efallai 10,000 o wahanol rannau yng nghanol y bregeth yn gweiddi ‘gogoniant’, ‘molwch’, neidiwch mewn llawenydd.”

George Whitefield, 1743


Map Cymru (c) Capel Gwynfil

Map Cymru

Roedd yr angerdd a deimlai Rowland ynglŷn â pherygl ysbrydol dynion yn gwneud iddo bregethu tu allan i’w blwyf ei hun, a oedd yn beth amhoblogaidd iawn i’w wneud yn y ddeunawfed ganrif.
Pan wrthodwyd iddo bregethu mewn eglwys arall, ni oedai Rowland i bregethu yn yr awyr agored, mewn mynwent, ar stondin ceffylau neu ar fwrdd, unrhyw le lle roedd yn gyfleus i dyrfa ymgynnull. Roedd y gynulleidfa fawr a gasglai wedi eu hysgwyd i’w seiliau. Roeddent yn gweld dydd o farn yn ymddangos o flaen eu llygaid, ac uffern yn agor o dan eu traed.

Ym mis Awst 1737 gwahoddwyd ef i bregethu yn Defynnog, lle cyfarfu â Howel Harris am y tro cyntaf. Daniel Rowland, Howel Harris, William Williams Pantycelyn a Howel Davies oedd pedwar arweinydd y Diwygiad yng Nghymru.


Torri i ffwrdd o Eglwys Lloegr: efengylwr rhydd

“Roedd ei ymddygiad yn peri gofid i’r esgob a chafodd ei ddiarddel o’i swydd. Ar ôl hyn adeiladodd adeilad cyfarfod mawr yng nghanol y pentref, lle y gallai bregethu ei ddysgeidiaethau heb ymyrraeth.”

Samuel Rush Meyrick, 1810


Capel Daniel Rowland, Llangeitho, a elwir fel y capel 'newydd' a adeiladwyd yn 1763

Capel Daniel Rowland, Llangeitho, a elwir fel y capel 'newydd' a adeiladwyd yn 1763

Erbyn 1737 roedd Daniel Rowland yn pregethu gras Duw hefyd. Roedd grym ei bregethau yn gadael argraff gref ar fywydau unigolion a’r holl gymuned. Cyn hir ni allai adeilad yr eglwys gynnwys y niferoedd a oedd yn dod i Langeitho.
Gan deimlo dan fygythiad oherwydd cryfder y Diwygiad ac anfodlonrwydd am fod Daniel Rowland yn mynnu pregethu mewn plwyfi eraill a’r dyrfa anferth a oedd yn dod i wrando arno, cymerodd yr esgob gamau i’w wahardd.

Gorfodwyd Daniel Rowland i adael Eglwys Lloegr yn 1763. Cyflwynwyd mandad gan yr Esgob Samuel Squire iddo i’w wahardd yn union ar ôl iddo ddarllen yn y gwasanaeth yn Llanddewibrefi. Gadawodd ei gynulleidfa gydag ef, gan adeiladu capel newydd yn Llangeitho. Yr oedd Daniel Rowland yn weinidog ar y capel hwn am weddill ei oes.


Hawlfraint (h) Amgueddfa Ceredigion.

Administration